OPCfW%20Logo

 

Ymateb oddi wrth Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

i

Ymholiad  Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

 

Medi 2014

 

 

 

 

 

 

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ymateb hwn, cysylltwch â:

 

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru,

Adeiladau Cambrian,

Sgwâr Mount Stuart,

Caerdydd, CF10 5FL

 

08442 640670

Ynglŷn â’r Comisiynydd

 

Llais annibynnol ac eiriolwr pobl hŷn ledled  Cymru yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn sefyll eu cornel ac yn siarad ar eu rhan. Mae hi’n gweithio i sicrhau bod y rhai sy’n fregus ac ar risg yn cael eu cadw’n ddiogel, ac mae’n sicrhau bod gan bobl hŷn lais a wrandewir arno, bod ganddynt ddewis a rheolaeth, nad ydynt yn teimlo’n unig neu  y gwahaniaethir yn eu herbyn a’u bod yn derbyn y gefnogaeth a’r gwasanaethau maent eu hangen.   Mae gwaith y Comisiynydd yn cael ei arwain gan yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud sy’n bwysig iddynt hwy, a’u lleisiau hwy sydd wrth galon yr oll a wna.   Mae’r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru yn wlad dda i dyfu’n hŷn ynddi - nid dim ond i rai, ond i bawb.

 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn yn:

 

·        Hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

·        Herio gwahaniaethau yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru.

·        Annog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl yn cael eu trin yng Nghymru.   

·        Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

 

   1.        Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i Bwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar eu Hymholiad i egwyddorion cyffredinol y Bil [1] Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

 

   2.        Rwyf wedi croesau’r Bil a’i fwriad cyffredinol yn gyhoeddus.   Rwy’n cymeradwyo gweledigaeth ac uchelgais tymor hir Llywodraeth Cymru ar y darn arloesol hwn o ddeddfwriaeth, y waith gyntaf yn y DU.  Mae sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn canolbwyntio ar wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru yn rhywbeth rwy’n ei lawn gefnogi ac mae’n ategu Blaenoriaeth 1 fy Fframwaith Gweithredu 2013-17:  Yn gwreiddio llesiant pobl hŷn wrth galon gwasanaethau cyhoeddus[2].  Rwy’n croesawu hefyd y tri “piler” llesiant a’r ffordd maent yn ategu’r  tri “piler” adnoddau Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn 2013-2023[3].

 

   3.        Wedi dweud hynny, a gwybod am uchelgais, cwmpas a chymhlethdod y Bil, rwyf ychydig yn bryderus y bydd i’r Bil golli ei bwrpas cyffredinol a’i gyfeiriad, ac y bydd y ffocws ar lesiant yn cael ei golli o fewn ehangder y swyddogaethau, a chamau gweithredu yn cael eu cymryd fel bo’r gofyn ar draws tirlun cyrff cyhoeddus yng Nghymru.  Mae’n bwysig na fydd cwmpas ehangedig y Bil yn golygu y bydd ei effaith ond yn “sgimio wyneb” y ffordd y bydd yn dylanwadu cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

 

   4.        Ceir tri maes penodol y credaf iddynt fod yn hanfodol i sicrhau bod bwriad y Bil yn cael ei gyflenwi:

  

·        Rhaid i’r dangosyddion “llwyddo” sy’n greiddiol i’r nod llesiant fod yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn berthnasol i bobl hŷn; 

·        Sicrhau bod y broses asesu anghenion yn adlewyrchu’r ehangder o faterion sy’n bwysig i bobl hŷn mewn dull gydgysylliedig ac sy’n rhoi sylw i’r canlyniad;

·        Sicrhau bod barn, gwybodaeth a phrofiad pobl hŷn yn cael eu llawn ddefnyddio i ffurfio meddwl strategol, blaenoriaethu a chyflenwi gwasanaethau gan fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar asedau.

 

   5.        Mae’r cynigion wedi newid cryn dipyn ers y Papur Gwyn[4],  Cymru Gynaliadwy a oedd yn seiliedig ar egwyddorion datblygu cynaliadwy.    Tra bod ehangu’r cynnig i fod yn holl gwmpasol ac yn berthnasol i dirlun yr holl wasanaethau cyhoeddus i’w groesawu mewn egwyddor, mae angen mwy o wybodaeth er mwyn deall yn iawn sut  y cyrhaeddir cyrchnod llesiant ac egwyddor datblygu cynaliadwy yn ymarferol gan gyrff cyhoeddus. 

 

   6.        Fel yr amlinellaf yn fy Fframwaith Gweithredu, hyd yma nid yw cysyniad llesiant yn cael ei ddeall na’i adlewyrchu’n ddigonol  wrth gynllunio, datblygu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd.    Mae llesiant yn gyfystyr ag ansawdd bywyd i bobl hŷn, yn sicrhau bod gwerth, ystyr a phwrpas i’w bywyd.   Gyda dros filiwn o bobl dros 60 oed yng Nghymru yn yr ugain mlynedd nesaf, mae’n bwysig deall nad yw anghenion pobl hŷn yn cael eu cyfyngu i iechyd a gofal cymdeithasol.    Mae angen i gyrff a gwasanaethau gryfhau’n sylweddol y defnydd o ddangosyddion llesiant yn eu gwaith, a gweld y cysyniad o lesiant yn sylfaenol i lwyddiant gwasanaethau cyhoeddus.  

 

   7.        Dylai’r Bil felly helpu i sicrhau bod llesiant yn eistedd wrth galon cynlluniau gwasanaethau cyhoeddus ac y bydd llesiant pobl hŷn yn cael ei ddefnyddio fwyfwy i yrru datblygiad gwasanaethau a chefnogaeth, yn ogystal â gwerthuso’u heffaith.   Mae cael gwasanaethau cyhoeddus yn iawn i bobl hŷn yn golygu ei gael yn iawn i eraill yn y gymdeithas, e.e. pobl ag anableddau neu deuluoedd â phlant ifanc.   Yn graidd iddo, ac i sicrhau fod y Bil yn ymblethu â Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru[5], dylid cael dull yn seiliedig ar hawliau i ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a fyddai’n ategu hawliau sylfaenol pobl hŷn ac yn cynorthwyo cyflenwi  gwasanaethau cyhoeddus gwell. 

 

 

 

 

Gwella Llesiant a Dangosyddion ‘llwyddiant’ 

 

   8.        Mae’r chwe nod llesiant yn eang ac yn uchelgeisiol ac maent i gyd yn atsain i bobl hŷn.  Fel yr amlinellwyd yn flaenorol, mae angen mwy o fanylion ar y nodiadau er mwyn deall yn well sut maent yn cymhwyso at bobl hŷn, yn cael eu hategu gan ddangosyddion ‘llwyddiant’ sy’n rhoi sylw i’r canlyniadau.   Mae cymdeithas ble gwneir y gorau o lesiant corfforol a meddyliol pobl trwy ‘Gymru iachach’ yn arbennig o bwysig i bobl hŷn, fel ac y mae cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial gwaeth beth fo’u cefndir na’u hamgylchiadau trwy ‘Gymru fwy cyfartal’.

 

   9.        Rwy’n croesawu’r cyfeiriad yn y Memorandwm Esboniadol at sicrhau y bydd y nod cydraddoldeb yn symud y cydbwysedd i ffwrdd o ‘wasanaethau drud’ ac at gyfleoedd i gymryd rhan a datblygiad personol [6].    Mae fy adroddiad diweddar  ‘Y Pwysigrwydd ac Effaith Gwasanaethau Cymunedol yng Nghymru’ [7] yn pwysleisio bod cadw gwasanaethau cymunedol yn hanfodol i gyfyngiant costau gwasanaethau statudol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy ymgysylltiad gwell, 

 

10.        Dylai’r chwe nod llesiant i gyd gyfrannu at gyflawni blaenoriaethau’r Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru [8],[9].   Fi sydd yn cadeirio’r Rhaglen, partneriaeth genedlaethol i wella llesiant cyffredinol pobl 50+.   Mae’r Rhaglen yn cynnwys Llywodraeth Cymru fel partner allweddol ac yn ategu’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn 2013-2023.  

 

11.        Mae sefydlu cymunedau deniadol, hyfyw, diogel â chysylltiadau da trwy ‘Gymru gyda chymunedau Cydlynus’ yn ategu llinyn cymunedau cyfeillgar y rhaglen, tra gallai mynd i’r afael ag anghenion y rhai sy’n byw â dementia fod yn ddangosydd ‘llwyddiant’ sy’n cyfrannu tuag at y nod o gymunedau cydlynus. Mae darparu cyfleodd cyflogaeth i boblogaeth fedrus ac wedi’i haddysgu’n dda trwy ‘Gymru ffyniannus’ yn hanfodol hefyd gan fod nifer cynyddol o bobl hŷn yn methu fforddio i ymddeol ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth,  ac angen sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth i aros yn neu gael ailfynediad at y farchnad lafur.   Gallai sicrhau fod pobl hŷn yn cael budd o gyfleodd mwyaf posibl i gynyddu eu hincwm yn ddangosydd ‘llwyddiant’ arall yn yr ystyr hwn.  

 

12.        Mae fy adroddiad ar wasanaethau cymunedol yn pwysleisio fod pobl hŷn angen digon o lefydd yn yr awyr agored ac adeiladau cyhoeddus i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau sy’n cyfrannu at eu hiechyd a’u lles.   Ynghylch y nod i sefydlu ‘Cymru â diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy’n ffynnu’,  rwy’n croesawu pob ymdrech i annog pobl hŷn i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden, ac rwy’n cefnogi pob cyfle i bobl hŷn gymryd rhan yn dysgu gydol oes, yn cynnwys darpariaeth yn yr iaith  Gymraeg.

 

13.        Croesawir y ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i osod a chyhoeddi amcanion llesiant sy’n cyfrannu at gyflawni ei nodau llesiant y soniwyd amdanynt eisoes.    Dylai’r amcanion hyn gymryd i ystyriaeth anghenion, pryderon a blaenoriaethau pobl hŷn, a dylai annog cydweithredu rhwng cyrff gwasanaethau cyhoeddus, yn cydweithio i gyflawni nodau cyffredin.

 

14.        Croesawir y ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod a chyhoeddi amcanion llesiant hefyd, yn cael ei gefnogi gan ddangosyddion cenedlaethol, adroddiadau blynyddol llesiant ac adroddiad tueddiadau i’r dyfodol i fesur cynnydd.   Yn ystod hanner cyntaf 2014, rwyf wedi cyfarfod â bron bob un o Weinidogion a Dirprwy Weinidogion Llywodraeth Cymru i yrru ymlaen y neges bod anghenion pobl hŷn yn berthnasol i bob portffolio Gweinidogol ac, os bydd y nodau llesiant yn gwbl fynd i’r afael â’r materion allweddol ar gyfer pobl hŷn, dylai’r ddyletswydd hwn gynorthwyo’n sylweddol i sicrhau bod llesiant pobl hŷn yn cael ei gydnabod ar draws portffolios.  

 

 Asesu Anghenion

 

15.        Mae gennyf ychydig o bryderon nad yw’r Bil yn adlewyrchu anghenion pobl hŷn yn ddigonol;  mae’n ofidus mai ond ychydig iawn o gyfeiriadau at bobl hŷn, gyda bron i 800,000 o bobl 60 oed a hŷn yng Nghymru, a wneir yn  Adroddiad Interim peilot ‘Y Gymru a Garem’ y Sgwrs Genedlaethol[10].    Ac ystyried nad oes yn gyffredinol ddigon o wybodaeth a data ar bobl hŷn o’i gymharu â phlant ac oedolion iau (yn enwedig ar y lefel is-genedlaethol a lleol [11],[12]), mae’n anhepgor bod gan y Bil ddarpariaethau sy’n llawn gipio anghenion ac amgylchiadau pobl hŷn er mwyn sicrhau bod y nodau llesiant cenedlaethol yn llawn berthnasol i genedlaethau’r dyfodol o bobl hŷn yng Nghymru.   Felly, mae cryfhau’r broses anghenion i fynd i’r afael yn llawn â’r materion eang sy’n bwysig i bobl hŷn yn hanfodol.

 

16.        Mewn cyd-destun rhyngwladol, gwneir ymdrechion i sicrhau bod Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer yr agenda ôl-2015 yn gymwys i’r holl bobl  ym mhob oedran, h.y. y nod arfaethedig i hyrwyddo llesiant i bawb ar bob oedran[13], a bod y systemau data yn addas i’r pwrpas yn y byd ohoni sy’n heneiddio.   Yng Nghymru a thu hwnt, rhaid I’’r agenda datblygu cynaliadwy sicrhau atebolrwydd i blant a phobl ifanc ac i bobl hŷn, ac nad oes neb yn ‘cael ei adael ar ôl’[14].

 

17.        Bydd canolbwyntio ar ddulliau mwy cynhwysol o amcanestyniad demograffig a data yn arwain at amcanestyniadau mwy cywir o anghenion pobl hŷn, a gwell dealltwriaeth o’u gofynion, a hynny’n arwain at well asesiad o anghenion a nodau llesiant mwy cynaliadwy a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru[15].

 

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru

 

18.        Rwy’n croesawu sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru ac rwy’n llwyr ymroddedig i weithio â’r Comisiynydd newydd, yn ogystal â’r Comisiynwyr eraill yng Nghymru, i gyflawni’r nodau llesiant a mynd i’r afael ag anghenion pobl hŷn.   Rwy’n disgwyl i’r Comisiynydd newydd adeiladu ar y gwaith ardderchog a’r cysylltiadau cydweithredu sydd eisoes wedi’u cyflawni gan Gomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, Cymru

 

19.        Bydd gan y Comisiynydd rôl allweddol i chwarae wrth hyrwyddo’r egwyddor o ddatblygu ac, yn fwy pwysig, bydd yn darparu cyngor a chymorth i sicrhau bod yr amcanion llesiant a osodwyd gan gyrff cyhoeddus yn cael eu cyflawni.   Bydd hyn yn hanfodol i sicrhau na fydd yr amcanion llesiant a osodwyd gan gyrff cyhoeddus yn cael eu ‘colli’ neu gael eu gweld fel ‘ymarferiad ticio bocs’.

 

20.        Fel y dywedais yn flaenorol wrth y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, rwy’n edrych ymlaen at weithio â’r Comisiynydd newydd wrth ymarfer ei swyddogaethau fel aelod o’r Panel Ymgynghorol.   Dylai’r Panel Ymgynghorol fod yn sylfaen i ddod a’r Comisiynwyr a phartneriaid allweddol eraill at ei gilydd, a gwelaf y panel fel cyfle i sicrhau bod y Comisiynydd newydd yn llawn ddeall llesiant pobl hŷn.   

 

21.        Mae sefydlu Panel Ymgynghorol yn bwysig hefyd i sicrhau bod darpariaeth yr adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn ategu fy adroddiadau ar y cynnydd a wnaed i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru.   I’r perwyl hwn, rwy’n croesawu’r cyfeiriadau at weithio ar y cyd, a’r Comisiynydd newydd a minnau yn gweithio’n glos â’n gilydd ar unrhyw bwnc sy’n gysylltiedig âg adolygiad a weithredwyd dan y cymhwysedd deddfwriaethol h.y. adran 3 Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006[16].

 

Byrddau’r Gwasanaethau Cyhoeddus

 

22.        Rwy’n croesawu’r cynnig i sefydlu Byrddau’r Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar sail statudol.   Dylid gweld  Byrddau’r Gwasanaethau Lleol (BGLl) fel sylfaeni allweddol i ddod a’r holl bartneriaid at ei gilydd a chyflenwi gwasanaethau integredig sy’n ymateb i anghenion pobl hŷn yn lleol.   Yn fy ngwaith o wreiddio llesiant pobl hŷn wrth galon gwasanaethau cyhoeddus a mynd i’r afael â blaenoriaeth arall o’m Fframwaith Gweithredu - diogelu a gwella gwasanaethau cymunedol, cyfleusterau a seilwaith - rwyf wedi archwilio rôl y BGLl a byddaf yn bresennol yng nghyfarfodydd BGLl ledled Cymru yn y misoedd i ddod i yrru’r agenda integreiddio yn ei blaen a sicrhau bod partneriaid allweddol yn cydweithio i ddeall anghenion pobl hŷn yn well ac yn adweithio i’r anghenion hynny. 

 

23.        Yn fy ngwaith yn edrych ar rôl BGLl, mae’n glir nad yw rôl y rhain wedi’i ddeall yn dda iawn, a gwelir ei berfformiad, ei berthnasedd a’i effeithiolrwydd fel ‘clytiog’.  Dylai cryfhau sail ddeddfwriaethol y BGLl olynol, a chadw eu ffocws ar wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardaloedd hwy drwy ymagwedd integredig, fod yn gymorth i wella perfformiad a pherthnasedd i bobl hŷn ar lefel lleol.     

 

24.        Ni all partneriaeth sy’n cynnwys y fath ystod eang ac amrywiol o bartneriaid, yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, Heddlu, Gwasanaethau Tân ac Achub, y sector Addysg Uwch ac Addysg Bellach, y sector wirfoddol, parciau cenedlaethol, cynghorau tref a chynghorau cymuned, a sefydliadau chwaraeon a diwylliant, ond annog gweithio cydgysylltiedig ac integredig sy’n canolbwyntio ar amcanion cyffredin llesiant er budd pobl hŷn. 

 

25.        Mae fy ngwaith ar archwilio rôl y BGLl wedi cynnwys eu Cynlluniau Integredig Unigol (CIU) hefyd.   Mae’r rhain yn amrywiadau gwirioneddol ar sut mae’r CIU yn mynd i’r afael â llesiant pobl hŷn, ac rwyf felly yn croesawu’r cynnig i newid ffocws y CIU i gynlluniau lleol llesiant.    Rwy’n disgwyl na fydd yr amcanion llesiant a gaiff eu cynnwys yn y cynlluniau newydd ond yn cadw at yr egwyddor datblygu cynaliadwy, ond hefyd yn mynd i’r afael yn gyfan gwbl âg anghenion, pryderon a blaenoriaethau pobl hŷn.

 

26.        Nodaf fod rhaid anfon cynlluniau lleol llesiant, a gynhyrchwyd gan BGC at Weinidogion Cymru, y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac at bwyllgor trosolwg a chraffu’r Awdurdod Lleol.   Byddaf hefyd yn cymryd diddordeb brwd yn y cynlluniau hyn, ac er budd pobl hŷn ledled Cymru, rwy’n ymroddedig i gynorthwyo i ddarparu’r cynlluniau hyn.

 

Sylwadau Cloi

 

27.        Rwy’n edrych ymlaen at weithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol ar y gwaith hwn - gwaith a allai drawsffurfio a dylanwadu’n fawr ar ddeddfwriaeth.   Rwy’n disgwyl i’r Bil ategu a gyrru yn eu blaen y pedair elfen ‘ansawdd bywyd’ i bobl hŷn fel yr amlinellir yn fy Fframwaith Gweithredu[17].   Mae’r Bil yn adeiladu ar y cyfeiriadau at y cysyniad o lesiant o fewn deddfwriaeth bresennol a deddfwriaeth arfaethedig Cymru, fel Bil Iechyd y Cyhoedd[18] a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)[19] , a gallai wneud llawer mwy i wella iechyd, annibyniaeth a llesiant pobl hŷn ar draws ystod eang o wasanaethau cyhoeddus. 

 

28.        Dylai’r Bil fod o gymorth yn fy ngwaith o sicrhau fod blaenoriaethau pobl hŷn a’u problemau yn cael eu cydnabod a’u hadlewyrchu ar draws holl bortffolios Llywodraeth Cymru a phortffolios Llywodraeth Leol.   Fel yn dragwyddol, mae’r ‘diafol yn gorwedd yn y manylyn’ a thra rwy’n croesawu nodau ac egwyddorion eang y Bil, mae angen mwy o fanylion i amlinellu sut wnaiff y ddeddfwriaeth ‘weithio allan’ yn ymarferol ar gyfer cyrff gwasanaethau cyhoeddus.   .

 

29.        Mae llesiant y cenedlaethau presennol, yn arbennig y genhedlaeth hŷn, yn parhau i yrru fy ngwaith yn ei flaen, ac rwy’n cynnig y byddai Bil ‘Llesiant Cymru’ yn deitl gwell a mwy cynhwysol, yn adlewyrchu’r cysyniad o undod rhyng-genedliadol sy’n eistedd wrth galon y dull o ymdrin â heneiddio yng Nghymru.   Byddaf yn gweithio i sicrhau bod yr effeithiau positif posib i bobl hŷn, fel eu canfuwyd yn yr asesiad Risg ar y Bil, yn cael eu gwireddu[20].

 

30.        Ac yn olaf, ac fel y dywedwyd eisoes, bydd fy swyddfa yn derbyn gwahoddiad y Pwyllgor i gyflwyno tystiolaeth ar lafar ym mis Hydref.



[1] http://www.senedd.assemblywales.org/mgConsultationDisplay.aspx?id=140&RPID=1504039457&cp=yes

[2] http://www.olderpeoplewales.com/en/news/news/13-05-23/Framework_for_Action.aspx

[3] http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/130521olderpeoplestrategyen.pdf

[4] http://wales.gov.uk/docs/desh/consultation/121203asusdevwhitepaperen.pdf

[5] http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/140716olderen.pdf

[6] http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs/pri-ld9831-em-e.pdf?langoption=3&ttl=PRI-LD9831-EM%20-%20Well-being%20of%20Future%20Generations%20%28Wales%29%20Bill%20-%20EXPLANATORY%20MEMORANDUM

[7] http://www.olderpeoplewales.com/en/news/news/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx

[8] http://www.olderpeoplewales.com/en/Ageingwell/The-programme.aspx

[9] Blaenoriaethau Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru: Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed, Cymunedau sy’n gefnogol o Dementia, Atal Cwympiadau, Unigrwydd ac Alltudiaeth, Cyfleoedd ar gyfer Dysgu a Chyflogaeth

[10] http://thewaleswewant.co.uk/sites/default/files/resources/Interim%20Report-July2014%20ENG.pdf

[11] https://www.ageinternational.org.uk/what-we-do/Policy-where-we-stand-/Position-statement-on-the-post-2015-goals-for-development/

[12] http://www.cpc.ac.uk/resources/downloads/JRF_report_Falkingham_2010.pdf

[13] http://www.helpage.org/silo/files/owg-outcome-document-july-2014.pdf

[14] http://www.helpage.org/silo/files/transformative-human-development-background-paper.pdf

[15] http://www.jrf.org.uk/sites/files/jrf/supporting-older-people-summary.pdf

[16] http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2006/30/section/3

[17] Mae bywydau pobl hŷn yn llawn gwerth, ystyr a phwrpas pan fyddant: Yn teimlo’n ddiogel a bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu parchu; Yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fyddant ei angen; Yn byw mewn lle sy’n addas ar eu cyfer ac yn gweddu i’w bywydau; Yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig ganddynt

[18] http://wales.gov.uk/docs/phhs/consultation/140402consultationen.pdf

[19] http://www.senedd.assemblywales.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=5664

[20] http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs/pri-ld9831-em-e.pdf?langoption=3&ttl=PRI-LD9831-EM%20-%20Well-being%20of%20Future%20Generations%20%28Wales%29%20Bill%20-%20EXPLANATORY%20MEMORANDUM